Jeremiah 1:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a draethaf fy marnedigaethau yn eu herbyn, am holl anwiredd y rhai a'm gadawsant, ac a arogldarthasant i dduwiau eraill, ac a addolasant weithredoedd eu dwylo eu hunain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bydda i'n cyhoeddi'r ddedfryd yn erbyn fy mhobl, ac yn eu cosbi nhw am yr holl bethau drwg maen nhw wedi ei wneud — sef troi cefn arna i a llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Addoli pethau maen nhw wedi eu gwneud gyda'i dwylo eu hunain!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a thraethaf fy marnedigaeth arnynt am eu holl gamwedd yn cefnu arnaf fi, gan arogldarthu i dduwiau eraill, ac addoli gwaith eu dwylo eu hunain.