Jeremiah 10:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan roddo efe ei lais, y bydd twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac efe a wna i'r tarth ddyrchafu o eithafoedd y ddaear: efe a wna fellt gyda'r glaw, ac a ddwg y gwynt allan o'i drysorau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae sŵn ei lais yn gwneud i'r awyr daranu. Mae'n gwneud i gymylau ddod i'r golwg ar y gorwel. Mae'n gwneud i fellt fflachio yng nghanol y glaw. Mae'n dod â'r gwynt allan o'i stordai i chwythu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd, fe bair godi tarth o eithafoedd y ddaear. Gwna fellt gyda'r glaw, a dwg allan wyntoedd o'i ystordai.