Jeremiah 10:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae fi am fy mriw! dolurus yw fy archoll: ond mi a ddywedais, Yn ddiau dyma ofid, a mi a'i dygaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai Jerwsalem, “Mae ar ben arna i! Dw i wedi fy anafu'n ddifrifol. Roeddwn i'n arfer meddwl, ‘Salwch ydy e a bydda i'n dod drosto.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwae fi am fy mriw! Y mae fy archoll yn ddwfn, ond dywedais, "Dyma ofid yn wir, a rhaid i mi ei oddef."