Jeremiah 10:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fy mhabell i a anrheithiwyd, a'm rhaffau oll a dorrwyd; fy mhlant a aethant oddi wrthyf, ac nid ydynt: nid oes mwy a ledo fy mhabell, nac a gyfyd fy llenni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae fy mhabell wedi ei dryllio, a'r rhaffau i gyd wedi eu torri. Mae fy mhlant wedi mynd, a fyddan nhw ddim yn dod yn ôl. Does neb ar ôl i godi'r babell eto, nac i hongian y llenni tu mewn iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Drylliwyd fy mhabell, torrwyd fy rhaffau i gyd; aeth fy mhlant oddi wrthyf, nid oes neb ohonynt mwy; nid oes neb a estyn fy mhabell eto, na chodi fy llenni.