Jeremiah 10:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni'th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw: canys bwytasant Jacob, ie, bwytasant ef, difasant ef hefyd, ac anrheithiasant ei gyfannedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tywallt dy lid ar y bobloedd sydd ddim yn dy nabod, a'r llwythau hynny sydd ddim yn dy addoli. Nhw ydy'r rhai sydd wedi llarpio pobl Jacob — wedi eu dinistrio nhw'n llwyr a gadael y wlad yn adfeilion.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tywallt dy lid ar y cenhedloedd nad ydynt yn dy adnabod, ac ar y teuluoedd nad ydynt yn galw ar dy enw. Canys y maent wedi bwyta Jacob, ei fwyta a'i ddifetha, ac wedi difodi ei drigfan.