Jeremiah 10:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis palmwydden, syth ydynt hwy, ac ni lefarant: y mae yn rhaid eu dwyn hwy, am na allant gerdded. Nac ofnwch hwynt; canys ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes ynddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r eilunod yma fel bwganod brain mewn gardd lysiau. Allan nhw ddim siarad; allan nhw ddim cerdded, felly mae'n rhaid eu cario nhw i bobman. Peidiwch bod a'u hofn nhw — allan nhw wneud dim niwed i chi, na gwneud dim i'ch helpu chi chwaith!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru; rhaid eu cludo am na allant gerdded. Peidiwch 'u hofni; ni allant wneud niwed, na gwneud da chwaith."