Jeremiah 10:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y celfydd, a dwylo'r toddydd: sidan glas a phorffor yw eu gwisg hwy; gwaith y celfydd ŷnt oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n dod ag arian wedi ei guro o Tarshish, ac aur pur o Wffas, i orchuddio'r delwau. Dim ond gwaith llaw cerfiwr a gof aur ydy'r rheiny; a'u dillad glas a phorffor yn waith teiliwr medrus!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dygir arian gyr o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y saer a dwylo'r eurych; a'u gwisg o ddeunydd fioled a phorffor gwaith crefftwyr ydyw i gyd.