Jeremiah 11:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na chyfod waedd neu weddi drostynt: canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf oherwydd eu drygfyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A ti Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i'w helpu nhw. Wna i ddim gwrando arnyn nhw pan fyddan nhw'n gweiddi am help o ganol eu trafferthion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ond amdanat ti, paid gweddo dros y bobl hyn, na chodi cri na gweddi, oherwydd ni fynnaf wrando pan alwant arnaf yn ystod eu drygfyd.