Jeremiah 11:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A minnau oeddwn fel oen neu fustach a ddygid i'w ladd; ac ni wyddwn fwriadu ohonynt fwriadau yn fy erbyn i, gan ddywedyd, Distrywiwn y pren ynghyd â'i ffrwyth, a difethwn ef o dir y rhai byw, fel na chofier ei enw ef mwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ro'n i fel oen bach diniwed yn cael ei arwain i'r lladd-dy; ddim yn sylweddoli mai yn fy erbyn roedd eu cynllwyn, “Rhaid i ni ddinistrio'r goeden a'i ffrwyth! Gadewch i ni ei ladd, a'i dorri o dir y byw, a bydd pawb yn anghofio amdano.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddwn innau fel oen tyner yn cael ei arwain i'w ladd, ac ni wyddwn mai ar fy nghyfer i y gosodent gynllwynion, gan ddweud, "Distrywiwn y pren a'i ffrwyth; torrwn ef ymaith o dir y rhai byw, fel na chofir ei enw mwy."