Jeremiah 11:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am wŷr Anathoth, y rhai a geisiant dy einioes, gan ddywedyd, Na phroffwyda yn enw yr ARGLWYDD, rhag dy farw trwy ein dwylo ni:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y dynion o Anathoth sydd eisiau fy lladd i. (Roedden nhw wedi dweud y bydden nhw'n fy lladd i os nad oeddwn i'n stopio proffwydo fel roedd yr ARGLWYDD yn dweud wrtho i).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am bobl Anathoth, sydd yn ceisio fy einioes ac yn dweud, "Paid phroffwydo mwyach yn enw yr ARGLWYDD, ac ni fyddi farw trwy ein dwylo ni."
Recommended Reading