Jeremiah 11:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a orchmynnais i'ch tadau chwi y dydd y dygais hwynt o wlad yr Aifft, o'r ffwrn haearn, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a gwnewch hwynt, yn ôl yr hyn oll a orchmynnwyf i chwi: felly chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW i chwithau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn, dwedais wrthyn nhw, “Rhaid i chi wrando arna i a chadw'r amodau dw i'n eu gosod. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n bobl i mi, a bydda i'n Dduw i chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a orchmynnais i'ch hynafiaid y dydd y dygais hwy allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn, a dweud, "Gwrandewch arnaf, a gwnewch yn unol 'r hyn a orchmynnaf i chwi; a byddwch yn bobl i mi, a byddaf finnau'n Dduw i chwi."