Jeremiah 12:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os gan ddysgu y dysgant ffyrdd fy mhobl, i dyngu i'm henw, Byw yw yr ARGLWYDD, (megis y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal,) yna yr adeiledir hwy yng nghanol fy mhobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bydd rhaid iddyn nhw ddysgu byw fel fy mhobl i. Ar un adeg roedden nhw'n dysgu fy mhobl i dyngu llw yn enw y duw Baal. Ond bryd hynny byddan nhw'n dweud ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw,’ wrth dyngu llw, a byddan nhw hefyd yn cael eu hystyried yn bobl i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os dysgant yn drwyadl ffyrdd fy mhobl, a thyngu i'm henw, 'Byw yw'r ARGLWYDD', fel y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal, yna sefydlir hwy yng nghanol fy mhobl.