Jeremiah 12:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Plennaist hwy, ie, gwreiddiasant; cynyddant, ie, dygant ffrwyth; agos wyt yn eu genau, a phell oddi wrth eu harennau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ti'n eu plannu nhw fel coed, ac maen nhw'n bwrw gwreiddiau. Maen nhw'n tyfu ac yn dwyn ffrwyth. Maen nhw'n siarad amdanat ti trwy'r amser, ond dwyt ti ddim yn bwysig iddyn nhw go iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Plennaist hwy, a gwreiddiasant; tyfant a dwyn ffrwyth. Yr wyt ar flaen eu tafod, ond ymhell o'u calon.