Jeremiah 13:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys megis ag yr ymwasg gwregys am lwynau gŵr, felly y gwneuthum i holl dŷ Israel a holl dŷ Jwda lynu wrthyf, medd yr ARGLWYDD, i fod i mi yn bobl, ac yn enw, ac yn foliant, ac yn ogoniant: ond ni wrandawent.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn union fel lliain isaf wedi ei rwymo'n dynn am ganol dyn, roeddwn i wedi rhwymo pobl Israel a Jwda amdana i,” meddai'r ARGLWYDD. “Roeddwn i eisiau iddyn nhw fod yn bobl sbesial i mi, yn fy anrhydeddu i, ac yn fy addoli i. Ond roedden nhw'n gwrthod gwrando.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd fel y gafael gwregys am lwynau rhywun, felly y perais i holl du375? Israel a holl du375? Jwda afael ynof fi," medd yr ARGLWYDD, "i fod yn bobl i mi, ac yn enw, ac yn foliant ac yn ogoniant; ond ni wrandawsant.