Jeremiah 13:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma: Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Pob costrel a lenwir â gwin. A dywedant wrthyt ti, Oni wyddom ni yn sicr y llenwir pob costrel â gwin?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae pob jar gwin i gael ei lenwi â gwin!’ A byddan nhw'n ateb, ‘Wrth gwrs! Dŷn ni'n gwybod hynny'n iawn.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dywed wrthynt y gair yma: 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Llenwir pob costrel gwin.' A dywedant wrthyt, 'Oni wyddom ni'n iawn y llenwir pob costrel gwin?'