Jeremiah 13:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhoddwch ogoniant i'r ARGLWYDD eich DUW, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni, iddo ef ei droi yn gysgod angau, a'i wneuthur yn dywyllwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhowch i'r ARGLWYDD eich Duw y parch mae'n ei haeddu cyn iddo ddod â thywyllwch arnoch chi. Cyn i chi faglu a syrthio wrth iddi dywyllu ar y mynyddoedd. Cyn i'r golau dych chi'n chwilio amdano droi'n dristwch ac yn dywyllwch dudew.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhowch ogoniant i'r ARGLWYDD eich Duw cyn iddo beri tywyllwch, a chyn i'ch traed faglu yn y gwyll ar y mynyddoedd; a thra byddwch yn disgwyl am olau, bydd yntau'n ei droi yn dywyllwch dudew, ac yn ei wneud yn nos ddu.