Jeremiah 13:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond oni wrandewch chwi hyn, fy enaid a wyla mewn lleoedd dirgel am eich balchder; a'm llygaid gan wylo a wylant, ac a ollyngant ddagrau, o achos dwyn diadell yr ARGLWYDD i gaethiwed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os wnewch chi ddim gwrando, bydda i'n mynd o'r golwg i grïo am eich bod mor falch. Bydda i'n beichio crïo, a bydd y dagrau'n llifo, am fod praidd yr ARGLWYDD wedi ei gymryd yn gaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os na wrandewch ar hyn, mi wylaf yn y dirgel am eich balchder; fe ffrydia fy llygaid ddagrau chwerw, oherwydd dwyn diadell yr ARGLWYDD i gaethiwed.