Jeremiah 13:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Codwch i fyny eich llygaid, a gwelwch y rhai sydd yn dyfod o'r gogledd: pa le y mae y ddiadell a roddwyd i ti, sef dy ddiadell brydferth?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Edrych, Jerwsalem. Mae'r gelyn yn dod o'r gogledd. Ble mae'r praidd gafodd ei rhoi yn dy ofal di? Ble mae'r ‛defaid‛ roeddet ti mor falch ohonyn nhw?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyrchafwch eich llygaid, a gwelwch y rhai a ddaw o'r gogledd. Ple mae'r praidd a roddwyd i ti, dy ddiadell braf?