Jeremiah 13:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr euthum i Ewffrates, ac a gloddiais, ac a gymerais y gwregys o'r man lle y cuddiaswn ef: ac wele, pydrasai y gwregys, ac nid oedd efe dda i ddim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fi'n mynd yno a palu am y lliain lle roeddwn i wedi ei guddio. Roedd wedi ei ddifetha, ac yn dda i ddim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Euthum innau yno, a chloddio a chymryd y gwregys o'r lle y cuddiais ef; ac wele, yr oedd y gwregys wedi ei ddifetha, ac nid oedd yn dda i ddim.