Jeremiah 14:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn, Fel hyn yr hoffasant hwy grwydro, ac ni ataliasant eu traed: am hynny nis myn yr ARGLWYDD hwy; yr awr hon y cofia efe eu hanwiredd hwy, ac a ymwêl â'u pechodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am ei bobl: “Maen nhw wrth eu bodd yn mynd i grwydro. Maen nhw'n mynd ble bynnag maen nhw eisiau. Felly dw i ddim yn eu derbyn nhw fel fy mhobl ddim mwy. Bydda i'n cofio'r pethau drwg maen nhw wedi ei wneud ac yn eu cosbi nhw am eu pechodau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn: "Mor hoff ganddynt yw crwydro heb atal eu traed; am hynny, ni fyn yr ARGLWYDD mohonynt, fe gofia eu drygioni yn awr, a chosbi eu pechodau."