Jeremiah 14:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan ymprydiant, ni wrandawaf eu gwaedd hwynt; a phan offrymant boeth‐offrwm a bwyd‐offrwm, ni byddaf bodlon iddynt: ond â'r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, y difâf hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hyd yn oed os byddan nhw'n ymprydio, fydda i'n cymryd dim sylw. Ac os byddan nhw'n offrymu aberth llosg ac offrwm o rawn, fydda i ddim yn eu derbyn nhw. Bydda i'n eu dinistrio nhw â rhyfel, newyn a haint.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ymprydiant, ni wrandawaf ar eu cri; pan aberthant boethoffrwm a bwydoffrwm, ni fynnaf hwy; ond difethaf hwy 'r cleddyf a newyn a haint."