Jeremiah 14:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, wele, mae y proffwydi yn dywedyd wrthynt, Ni welwch chwi gleddyf, ac ni ddaw newyn atoch; eithr mi a roddaf heddwch sicr i chwi yn y lle yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fi'n dweud, “Ond Meistr, ARGLWYDD, mae'r proffwydi yn dweud wrthyn nhw, ‘Bydd popeth yn iawn! Fydd dim rhyfel na newyn, dim ond heddwch a llwyddiant.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedais innau, "O fy Arglwydd DDUW, wele'r proffwydi yn dweud wrthynt, 'Ni welwch gleddyf, ni ddaw newyn arnoch, ond fe rof i chwi wir heddwch yn y lle hwn.'"