Jeremiah 14:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bobl y rhai y maent yn proffwydo iddynt, a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerwsalem, oherwydd y newyn a'r cleddyf; ac ni bydd neb i'w claddu, hwynt‐hwy, na'u gwragedd, na'u meibion, na'u merched: canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A bydd y bobl maen nhw'n proffwydo iddyn nhw hefyd yn marw o ganlyniad i ryfel a newyn. Bydd eu cyrff yn cael eu taflu allan ar strydoedd Jerwsalem, a fydd neb yno i'w claddu nhw na'u gwragedd na'u plant. Bydda i'n tywallt arnyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu am eu drygioni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y newyn a'r cleddyf, teflir allan i heolydd Jerwsalem y bobl y proffwydir iddynt, heb neb i'w claddu hwy eu hunain na'u gwragedd na'u meibion na'u merched. Tywalltaf eu drygioni arnynt.'