Jeremiah 14:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma, Difered fy llygaid i ddagrau nos a dydd, ac na pheidiant: canys â briw mawr y briwyd y wyry merch fy mhobl, ac â phla tost iawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dywed fel hyn wrthyn nhw, Jeremeia: ‘Dw i'n colli dagrau nos a dydd; alla i ddim stopio crïo dros fy mhobl druan. Mae'r wyryf annwyl wedi cael ergyd farwol. Mae hi wedi cael ei hanafu'n ddifrifol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"A dywedi wrthynt y gair hwn: 'Difered fy llygaid ddagrau, nos a dydd heb beidio. Daeth briw enbyd i'r wyryf, merch fy mhobl; ergyd drom iawn.