Jeremiah 14:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os af fi allan i'r maes, wele rai wedi eu lladd â'r cleddyf; ac o deuaf i mewn i'r ddinas, wele rai llesg o newyn: canys y proffwyd a'r offeiriad hefyd sydd yn amgylchu i dir nid adwaenant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan dw i'n mynd allan i gefn gwlad, dw i'n gweld y rhai sydd wedi cael eu lladd gyda'r cleddyf. Pan dw i'n cerdded drwy'r ddinas, dw i'n gweld canlyniadau erchyll y newyn. Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn mynd ymlaen â'i busnes; dŷn nhw ddim yn deall beth sy'n digwydd.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os af i'r maes, yno y mae'r cyrff a laddwyd 'r cleddyf. Os af i'r ddinas, yno y mae'r rhai a nychwyd gan y newyn. Y mae'r proffwyd hefyd a'r offeiriad yn crwydro'r wlad, a heb ddeall.'"