Jeremiah 14:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan wrthod a wrthodaist ti Jwda? neu a ffieiddiodd dy enaid di Seion? paham y trewaist ni, ac nad oes i ni feddyginiaeth? disgwyliasom am heddwch, ac nid oes daioni; ac am amser iachâd, ac wele flinder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“ARGLWYDD, wyt ti wir wedi gwrthod Jwda? Wyt ti'n casáu Seion bellach? Pam wyt ti wedi'n taro ni mor galed nes bod dim gobaith i ni wella? Roedden ni'n gobeithio y byddai popeth yn iawn, ond i ddim pwrpas; roedden ni'n edrych am amser gwell, ond dim ond dychryn gawson ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A wrthodaist ti Jwda yn llwyr? A ffieiddiaist ti Seion? Pam y trewaist ni heb fod inni iachd? Disgwyl yr oeddem am heddwch, ond ni ddaeth daioni; am amser iachd, ond dychryn a ddaeth.