Jeremiah 14:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gobaith Israel, a'i geidwad yn amser adfyd, paham y byddi megis pererin yn y tir, ac fel ymdeithydd yn troi i letya dros noswaith?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ti ydy unig obaith Israel — ein hachubwr pan oedden ni mewn trwbwl. Pam wyt ti fel estron yn y wlad? Pam wyt ti fel teithiwr sydd ond yn aros am noson?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gobaith Israel, a'i geidwad yn awr ei adfyd, pam y byddi fel dieithryn yn y tir, fel ymdeithydd yn lledu pabell i aros noson?