Jeremiah 15:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dy eiriau a gaed, a mi a'u bwyteais hwynt; ac yr oedd dy air di i mi yn llawenydd ac yn hyfrydwch fy nghalon: canys dy enw di a alwyd arnaf fi, O ARGLWYDD DDUW y lluoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i ti siarad ron i'n llyncu pob gair; roedd dy eiriau yn fy ngwneud i mor hapus — ron i wrth fy modd! I ti dw i'n perthyn O ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cafwyd geiriau gennyt, ac aethant yn ymborth i mi; daeth dy air yn llawenydd i mi, ac yn hyfrydwch fy nghalon; canys galwyd dy enw arnaf, O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd.