Jeremiah 15:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Os dychweli, yna y'th ddygaf eilwaith, a thi a sefi ger fy mron; os tynni ymaith y gwerthfawr oddi wrth y gwael, byddi fel fy ngenau i: dychwelant hwy atat ti, ond na ddychwel di atynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma ateb yr ARGLWYDD: “Rhaid i ti stopio siarad fel yna! Gwna i dy gymryd di'n ôl wedyn, a cei ddal ati i'm gwasanaethu i. Dywed bethau gwerth eu dweud yn lle siarad rwtsh, wedyn cei ddal ati i siarad ar fy rhan i. Ti sydd i ddylanwadu arnyn nhw, nid nhw yn dylanwadu arnat ti!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Os dychweli, fe'th adferaf ac fe sefi o'm blaen; os tynni allan y gwerthfawr oddi wrth y di-werth, byddi fel genau i mi; try'r bobl atat ti, ond ni throi di atynt hwy.