Jeremiah 15:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os dywedant wrthyt, I ba le yr awn? tithau a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Y sawl sydd i angau, i angau; a'r sawl i'r cleddyf, i'r cleddyf; a'r sawl i'r newyn, i'r newyn; a'r sawl i gaethiwed, i gaethiwed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac os byddan nhw'n gofyn, ‘Ble awn ni?’, dywed wrthyn nhw: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint. Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel. Bydd y rhai sydd i farw o newyn yn marw o newyn. Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion.”’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os dywedant wrthyt, 'I ble'r awn?', dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Y sawl sydd i angau, i angau; y sawl sydd i gleddyf, i gleddyf; y sawl sydd i newyn, i newyn; y sawl sydd i gaethiwed, i gaethiwed.'