Jeremiah 15:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hon a blantodd saith, a lesgaodd: ei henaid hi a lesmeiriodd, ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd; hi a gywilyddiodd, ac a waradwyddwyd; a rhoddaf y gweddillion ohonynt i'r cleddyf yng ngŵydd eu gelynion, medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y fam oedd â saith o feibion yn anadlu'n drwm mewn panig, ac yn llewygu. Mae'r haul oedd yn disgleirio yn ei bywyd wedi machlud ganol dydd. Mae hi'n eistedd mewn cywilydd a gwarth. A bydd y rhai sydd ar ôl yn cael eu lladd gan gleddyf y gelyn,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llesg'r un a esgorodd ar saith o feibion; syrth mewn llesmair, machluda ei haul, a hi eto'n ddydd; fe'i dygir i gywilydd a gwaradwydd. Rhoddaf i'r cleddyf y rhai sy'n weddill, yng ngu373?ydd eu gelynion, medd yr ARGLWYDD."