Jeremiah 16:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddangosech i'r bobl yma yr holl eiriau hyn, ac iddynt hwythau ddywedyd wrthyt, Am ba beth y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl fawr ddrwg hyn i'n herbyn ni? neu, Pa beth yw ein hanwiredd? neu, Beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr ARGLWYDD ein DUW?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan fyddi di'n dweud hyn i gyd wrth y bobl, byddan nhw'n siŵr o ofyn i ti, ‘Pam mae'r ARGLWYDD yn bygwth gwneud y pethau ofnadwy yma i ni? Beth ydyn ni wedi ei wneud o'i le? Sut ydyn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Pan fynegi'r holl eiriau hyn i'r bobl, dywedant wrthyt, 'Pam y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl ddrwg mawr hwn yn ein herbyn? Beth yw ein trosedd? Pa bechod a wnaethom yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?'