Jeremiah 16:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedi wrthynt, Oherwydd i'ch tadau fy ngadael i, medd yr ARGLWYDD, a myned ar ôl duwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt, a'm gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dywed di wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am bod eich hynafiaid chi wedi troi cefn arna i. Aethon nhw i addoli a gwasanaethu duwiau eraill; troi cefn arna i, a gwrthod beth ddysgais i iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywed dithau wrthynt, 'Oherwydd i'ch hynafiaid fy ngadael i,' medd yr ARGLWYDD, 'a rhodio ar l duwiau eraill, a'u gwasanaethu a'u haddoli, a'm gwrthod i, heb gadw fy nghyfraith.