Jeremiah 16:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Wele, myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, ddarfod o'r lle hwn, o flaen eich llygaid, ac yn eich dyddiau chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i, yr ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud fy mod i'n mynd i roi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio yn y wlad yma — sŵn pobl yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Cewch fyw i weld y peth yn digwydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Yn y lle hwn, o flaen eich llygaid ac yn eich dyddiau, rwyf yn rhoi taw ar seiniau llawenydd a hapusrwydd, ar lais priodfab a phriodferch.'