Jeremiah 17:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel petris yn eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae pobl sy'n gwneud arian drwy dwyll fel petrisen yn eistedd ar wyau wnaeth hi mo'i dodwy. Byddan nhw'n colli'r cwbl yn annisgwyl, ac yn dangos yn y diwedd mai ffyliaid oedden nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel petrisen yn crynhoi cywion nas deorodd, y mae'r sawl sy'n casglu cyfoeth yn anghyfiawn; yng nghanol ei ddyddiau bydd yn ei adael ef, a bydd ei ddiwedd yn ei ddangos yn ynfyd.