Jeremiah 17:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwaradwydder fy erlidwyr, ac na'm gwaradwydder i; brawycher hwynt, ac na'm brawycher i: dwg arnynt ddydd drwg, a dryllia hwynt â drylliad dauddyblyg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwna i'r rhai sy'n fy erlid i gywilyddio; paid codi cywilydd arna i. Gad iddyn nhw gael eu siomi; paid siomi fi. Tyrd â'r dyddiau drwg arnyn nhw, a dinistria nhw'n llwyr!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwaradwydder f'erlidwyr, ac na'm gwaradwydder i; brawycher hwy, ac na'm brawycher i; dwg arnynt hwy ddydd drygfyd, dinistria hwy dinistr deublyg.