Jeremiah 17:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y daw trwy byrth y ddinas hon, frenhinoedd a thywysogion yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, hwy a'u tywysogion, gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem; a'r ddinas hon a gyfanheddir byth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
bydd brenhinoedd, disgynyddion Dafydd, yn dal i ddod drwy'r giatiau yma yn eu cerbydau ac ar geffylau. Bydd eu swyddogion yn dod gyda nhw, a phobl Jwda a Jerwsalem hefyd. Bydd pobl yn byw yn y ddinas yma am byth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna fe ddaw trwy byrth y ddinas hon frenhinoedd a thywysogion i eistedd ar orsedd Dafydd, ac i deithio mewn cerbydau a marchogaeth ar feirch hwy a'u tywysogion, pobl Jwda a phres-wylwyr Jerwsalem a chyfanheddir y ddinas hon hyd byth.