Jeremiah 17:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac o ddinasoedd Jwda, ac o amgylchoedd Jerwsalem, ac o wlad Benjamin, ac o'r gwastadedd, ac o'r mynydd, ac o'r deau, y daw rhai yn dwyn poethoffrymau, ac aberthau, a bwyd‐offrymau, a thus, ac yn dwyn aberthau moliant i dŷ yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pobl yn dod yma o drefi Jwda a'r ardal o gwmpas Jerwsalem, o dir llwyth Benjamin, o'r iseldir yn y gorllewin, o'r bryniau ac o'r Negef yn y de. Byddan nhw'n dod i deml yr ARGLWYDD gydag offrymau i'w llosgi ac aberthau, offrymau o rawn ac arogldarth, ac offrymau diolch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A daw pobloedd o ddinasoedd Jwda a chwmpasoedd Jerwsalem, a thiriogaeth Benjamin, o'r Seffela a'r mynydd-dir, a'r Negef, gan ddwyn poethoffrymau ac aberthau, bwydoffrwm a thus, ac offrwm diolch i du375?'r ARGLWYDD.