Jeremiah 17:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys efe a fydd fel y grug yn y diffeithwch, ac ni wêl pan ddêl daioni; eithr efe a gyfanhedda boethfannau yn yr anialwch, mewn tir hallt ac anghyfanheddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n sych fel prysglwyn ar dir anial, heb ddim gobaith i'r dyfodol. Byddan nhw'n aros yn yr anialwch poeth, mewn tir diffaith lle does neb yn gallu byw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd fel prysgwydd yn y diffeithwch; ni fydd yn gweld daioni pan ddaw. Fe gyfanhedda fannau moelion yr anialwch, mewn tir hallt heb neb yn trigo ynddo.