Jeremiah 17:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys efe a fydd megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ac a estyn ei wraidd wrth yr afon, ac ni ŵyr oddi wrth ddyfod gwres; ei ddeilen fydd ir, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid â ffrwytho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddan nhw'n gryf fel coeden wedi ei phlannu ar lan afon, a'i gwreiddiau'n ymwthio i'r dŵr. Dydy'r gwres crasboeth yn poeni dim arni hi; mae ei dail yn aros yn wyrdd. A does dim lle i boeni pan ddaw blwyddyn o sychder; bydd ei ffrwyth yn dal i dyfu arni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae fel pren a blannwyd ar lan dyfroedd, yn gwthio'i wreiddiau i'r afon, heb ofni gwres pan ddaw, a'i ddail yn ir; ar dymor sych ni phrydera, ac ni phaid ffrwytho.