Jeremiah 18:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os hi a wna ddrygioni yn fy ngolwg, heb wrando ar fy llais, minnau a edifarhaf am y daioni â'r hwn y dywedais y gwnawn les iddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os ydy pobl y wlad honno'n gwneud drwg ac yn gwrthod gwrando arna i, fydda i ddim yn gwneud y pethau da wnes i addo iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond os gwna'r genedl honno ddrygioni yn fy ngolwg, a gwrthod gwrando arnaf, gallaf ailfeddwl am y da a addewais iddi.