Jeremiah 18:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn awr gan hynny, atolwg, dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn llunio drwg i'ch erbyn, ac yn dychmygu dychymyg i'ch erbyn: dychwelwch yr awr hon bob un o'i ffordd ddrwg, a gwnewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd yn dda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly dywed wrth bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Dw i'n paratoi i wneud drwg i chi, ac yn bwriadu eich cosbi chi. Felly rhaid i bob un ohonoch newid eich ffyrdd a stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr dywed wrth bobl Jwda ac wrth breswylwyr Jerwsalem, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n llunio drwg yn eich erbyn, ac yn cynllunio yn eich erbyn. Dychwelwch, yn wir, bob un o'i ffordd ddrwg, a gwella'ch ffyrdd a'ch gweithredoedd.'