Jeremiah 19:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Yn y modd hwn y drylliaf y bobl hyn, a'r ddinas hon, fel y dryllia un lestr pridd, yr hwn ni ellir ei gyfannu mwyach; ac yn Toffet y cleddir hwynt, o eisiau lle i gladdu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
yna dweud wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud: ‘Dw i'n mynd i ddryllio'r wlad yma a'r ddinas, yn union fel cafodd y jwg yma ei dorri'n deilchion. Does dim gobaith ei drwsio! Bydd cyrff yn cael eu claddu yma yn Toffet nes bydd dim lle ar ôl!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Drylliaf y bobl hyn a'r ddinas hon, fel y dryllir llestr y crochenydd, ac ni ellir ei gyfannu mwyach. Fe gleddir cyrff yn Toffet o ddiffyg lle arall i'w claddu.