Jeremiah 19:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thai Jerwsalem, a thai brenhinoedd Jwda, a fyddant halogedig fel mangre Toffet: oherwydd yr holl dai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i holl lu y nefoedd, ac y tywalltasant ddiod‐offrymau i dduwiau dieithr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am fod pobl wedi aberthu i'r sêr, a thywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill ar doeau'r tai a thoeau palasau brenhinoedd Jwda, bydd Jerwsalem hefyd wedi ei llygru gan gyrff yr un fath â Toffet.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A bydd tai Jerwsalem a thai brenhinoedd Jwda fel mangre Toffet, yn halogedig yr holl dai lle bu arogldarthu ar y to i holl lu'r nefoedd, a lle bu tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill.'"