Jeremiah 19:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Wele fi yn dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefydd, yr holl ddrygau a leferais i'w herbyn, am galedu ohonynt eu gwarrau, rhag gwrando fy ngeiriau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Yn fuan iawn dw i'n mynd i ddod â dinistr ar y ddinas yma a'r pentrefi sydd o'i chwmpas, yn union fel y dwedais i. Mae'r bobl wedi bod mor benstiff, a gwrthod gwrando arna i.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Dyma fi'n dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefi, yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn, am iddynt ystyfnigo a gwrthod gwrando ar fy ngeiriau.'"