Jeremiah 19:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywed, Brenhinoedd Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem, clywch air yr ARGLWYDD: Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Wele fi yn dwyn ar y lle hwn ddrwg, yr hwn pwy bynnag a'i clywo, ei glustiau a ferwinant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dywed, ‘Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, frenhinoedd Jwda a phobl Jerwsalem. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i ddod â dinistr ofnadwy i'r lle yma. Bydd pawb fydd yn clywed am y peth yn geg agored.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud, 'Clywch air yr ARGLWYDD, frenhinoedd Jwda a phreswylwyr Jerwsalem. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Byddaf yn dwyn y fath ddrwg ar y lle hwn nes bod clustiau pwy bynnag a glyw amdano yn merwino.