Jeremiah 19:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am iddynt fy ngwrthod i, a dieithrio y lle hwn, ac arogldarthu ynddo i dduwiau dieithr, y rhai nid adwaenent hwy, na'u tadau, na brenhinoedd Jwda, a llenwi ohonynt y lle hwn o waed gwirioniaid;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r bobl yma wedi troi cefn arna i, a gwneud y lle yma fel lle estron. Maen nhw wedi llosgi arogldarth i dduwiau eraill — duwiau nad oedden nhw na'u hynafiaid na brenhinoedd Jwda yn gwybod dim amdanyn nhw! Ac maen nhw wedi tywallt gwaed plant diniwed yma!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Am iddynt fy ngwrthod, a cham-ddefnyddio'r lle hwn ac arogldarthu ynddo i dduwiau eraill nad oeddent yn eu hadnabod, hwy na'u hynafiaid na brenhinoedd Jwda, a llenwi'r lle gwaed y rhai dieuog,