Jeremiah 19:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Adeiladasant hefyd uchelfeydd Baal, i losgi eu meibion â thân yn boethoffrymau i Baal; yr hyn ni orchmynnais, ac ni ddywedais, ac ni feddyliodd fy nghalon:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw wedi adeiladu allorau paganaidd, ac wedi llosgi eu plant yn aberth i Baal. Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud hynny. Fyddai'r fath beth byth yn croesi fy meddwl i!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac adeiladu uchelfeydd i Baal, i losgi eu meibion yn y tn fel poethoffrwm i Baal, peth na orchmynnais, na'i lefaru, ac na ddaeth i'm meddwl