Jeremiah 19:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a wnaf yn ofer gyngor Jwda a Jerwsalem yn y lle hwn, a pharaf iddynt syrthio gan y cleddyf o flaen eu gelynion, a thrwy law y rhai a geisiant eu heinioes hwy: rhoddaf hefyd eu celaneddau hwynt yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n drysu cynlluniau pobl Jwda a Jerwsalem. Byddan nhw'n cael eu lladd gan eu gelynion yn y rhyfel. Bydd adar ac anifeiliaid gwylltion yn bwyta eu cyrff nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Gwnaf gyngor Jwda a Jerwsalem yn ofer yn y lle hwn, a pharaf i'r bobl syrthio trwy'r cleddyf o flaen eu gelynion, a mynd i afael y rhai sy'n ceisio'u bywyd; rhof eu celanedd yn fwyd i adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt.