Jeremiah 19:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a baraf iddynt fwyta cnawd eu meibion, a chnawd eu merched, bwytânt hefyd bob un gnawd ei gyfaill, yn y gwarchae a'r cyfyngder, â'r hwn y cyfynga eu gelynion, a'r rhai sydd yn ceisio eu heinioes, arnynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n gwneud iddyn nhw fwyta eu meibion a'u merched. Byddan nhw'n bwyta cyrff pobl am fod y sefyllfa wedi mynd mor ddrwg, a'r gelynion yn gwarchae arnyn nhw ac yn rhoi'r fath bwysau arnyn nhw.”’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaf iddynt fwyta cnawd eu meibion a chnawd eu merched; bwytnt gnawd ei gilydd yn y gwarchae ac yn y cyfyngder a ddygir arnynt gan eu gelynion a'r rhai sy'n ceisio'u bywyd.'